Cofnodion Grŵp Trawsbleidiol 
  
 
  

 

 


Cofnodion cyfarfod:

Teitl y grŵp trawsbleidiol:

Y Grŵp Trawsbleidiol ar Strôc

Dyddiad y cyfarfod:

12/10/23

Lleoliad:

Ar-lein (Teams)

 

Yn bresennol:


Aelodau’r Grŵp Trawsbleidiol:

Huw Irranca-Davies AS (Cadeirydd)
Altaf Hussain AS (Is-Gadeirydd)
David Rees AS
Mark Isherwood AS


Cyflwynwyr:

Frances Medcraft – Llais profiad byw
Sam Humphrey, Rheolwr Cyfathrebu, Iechyd Cyhoeddus Cymru
Angela Contestabile, Arweinydd ym Maes Polisi a Dylanwadu, y Gymdeithas Strôc
Katie Chappelle, Cyfarwyddwr Cyswllt Cymru, y Gymdeithas Strôc


Hefyd yn bresennol:

Frances Medcraft
John Hunt
Judith Rees
Shakeel Ahmad (Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a’r Fro – Meddygaeth)
Stubbs, Ed (Staff Cymorth yr Aelodau | Member Support Staff)


Brennan, Shane (Staff Cymorth yr Aelodau | Member Support Staff)
Thomas, Owen (Staff Cymorth yr Aelodau | Member Support Staff)
Natasha Collins
Lynn Preece (y Gymdeithas Strôc)
Llinos Wyn Parry (y Gymdeithas Strôc)
Emma Burke (y Gymdeithas Strôc)
Katie MacGregor (y Gymdeithas Strôc)
Benji Williams (Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a'r Fro – Cynllunio Strategol a Chynllunio Gwasanaethau)
Janine Gould (Bwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg – Meddygaeth)
Laura Thomas (y Gymdeithas Strôc)
Alexis Kolodziej (y Gymdeithas Strôc)
Colin Oliver (y Gymdeithas Strôc)
Alice Roblin (Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr – Seicoleg Glinigol)
Sokina Miah (y Gymdeithas Strôc)
Annabel Jones
Kerry Morgan (Bwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg – Cymunedau)
Cerrys Parker (Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda – Nyrsys Clinigol Arbenigol ym maes Strôc / Rheolwr yr Ysbyty Dydd)
Rees, Kirsty (Staff Cymorth yr Aelodau | Member Support Staff)
Ryland
Som Shekar (Bwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan – Strôc)
Annabel Jones
Cerrys
Karl Jackson (Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr – Yr Uned Strôc)

 

Ymddiheuriadau:

Mabon ap Gwynfor AS
Jack Sargeant AS
Joel Williams AS
Eluned Morgan AS
Tracey Williams (Llywodraeth Cymru)

 

Crynodeb o'r cyfarfod:

1.    Croeso, ymddiheuriadau a chyflwyniadau.

 

2.    Cyfarfod Cyffredinol Blynyddol ac ailsefydlu'r Grŵp Trawsbleidiol ar Strôc.

Nododd Huw Irranca-Davies fod angen ailsefydlu’r grŵp, a oedd yn golygu bod angen enwebu aelodau.

Gwnaeth Altaf Hussain AS a David Rees AS enwebu Huw Irranca-Davies AS yn Gadeirydd. Cafodd Huw Irranca-Davies AS ei ethol yn Gadeirydd. Gwnaeth David Rees AS ac Altaf Hussain AS enwebu Angela Contestabile (Arweinydd ym Maes Polisi a Dylanwadu, y Gymdeithas Strôc) yn ysgrifennydd y grŵp, a chafodd Angela Contestabile ei hethol yn ysgrifennydd. Gwnaeth David Rees AS enwebu Altaf Hussain AS, a chafodd yr enwebiad hwnnw ei eilio gan Huw Irranca-Davies AS. Cafodd Altaf Hussain AS ei ethol yn Is-gadeirydd.

Croesawodd Huw Irranca-Davies AS bawb i'r cyfarfod. Eglurodd y byddai’r cyfarfod yn cael ei recordio, gan gynghori unrhyw un nad oedd am fod yn rhan o’r recordiad i ddiffodd ei gamera.

Gwnaeth Huw Irranca-Davies AS ailsefydlu'r Grŵp Trawsbleidiol ar Strôc yn swyddogol.

 

3. Straeon gan oroeswyr strôc a phwysigrwydd gweithredu yn unol â’r prawf wyneb, braich a lleferydd (y prawf FAST) 

Cyflwynodd Huw Irranca-Davies AS yr eitem gyntaf: Profiad byw o strôc a phwysigrwydd gweithredu yn unol â’r prawf FAST. Cyflwynodd AC Fran (person â phrofiad byw), gan ei gwahodd i rannu ei stori.

Cyflwynodd Fran ei hun, gan rannu’r ffaith ei bod wedi cael strôc 15 mis yn ôl, a'i bod bellach yn dioddef o affasia. Eglurodd mai anhwylder cyfathrebu yw hwn. Eglurodd hefyd ei bod yn aml yn profi blinder, cur pen, a hwyliau isel yn dilyn ei strôc. Ar ôl iddi fynd i’r gwely, gwnaeth Fran ddeffro yng nghanol y nos ac nid oedd yn teimlo'n hwylus. Roedd nam ar ei hwyneb. Nid oedd am darfu ar gwsg unrhyw un yn y tŷ, ac felly penderfynodd fynd yn ôl i gysgu. Fore Gwener, deffrodd Fran. Aeth i lawr y grisiau a cheisiodd gael sgwrs â'i gŵr. 

Ceisiodd Fran siarad, ond nid oedd yn gallu ynganu ei geiriau. Roedd gŵr Fran yn gallu gweld ei bod wedi mynd i banig, ac roedd yn gwybod bod rhywbeth o'i le. Ffoniodd 999, a chafodd wybod y byddai’n aros am bedair awr. Felly, aeth gŵr Fran â hi i'r ysbyty. Yn ffodus, cafodd ei gweld ar unwaith, gan ei bod hi’n weddol gynnar yn y bore.

Roedd angen gwasanaethau adsefydlu ar Fran, ond nid oedd gwely ar gael. Gwnaeth Fran ryddhau ei hun 10 diwrnod ar ôl cael ei derbyn i'r ysbyty yn sgil ei strôc oherwydd bod ei hiechyd meddwl yn gwaethygu, ac roedd ganddi’r gallu i adael yr ysbyty yn gorfforol. Ers dod adref, mae hi wedi cael cymorth gan y Gymdeithas Strôc a rhywfaint o gymorth preifat, gan gynnwys gan Dr Ahmad yn Ysbyty Spire.

Roedd yn 48 oed pan gafodd ei strôc. Mae llawer o bobl yn meddwl mai dim ond pobl hŷn sy’n gallu cael strôc. Roedd Fran yn ffit ac yn iach. Pe bai hi wedi deffro ei gŵr y noson honno, byddai ef wedi gweld ei hwyneb ac wedi deall bod angen cymorth arni. Mae hi o’r farn y gellid bod wedi gweithredu’n gynt, ac y byddai ei gŵr wedi adnabod yr arwyddion a’r symptomau a oedd yn gysylltiedig â chael strôc. Mae ei phlant bellach yn gwybod y gall strôc daro unrhyw un, ac maent yn ymwybodol o’r arwyddion a’r prawf FAST. Fodd bynnag, nid oes llawer o bobl yn ymwybodol o’r pethau hyn, ac mae'n teimlo bod angen i fwy o bobl wybod sut i adnabod strôc a gweithredu yn unol â’r prawf FAST (drwy ffonio 999).

Diolchodd Huw Irranca-Davies AS i Fran am rannu ei hanes mewn ffordd mor onest a dewr. Ailadroddodd pa mor bwysig yw gweithredu yn unol â’r prawf FAST, gan sicrhau bod pobl yn ymwybodol o arwyddion strôc.

Holodd Huw Irranca-Davies AS am hynt ei hadferiad. Gwnaeth ei llongyfarch ar rannu ei stori, gan gydnabod bod hyn yn rhan o’r daith. Eglurodd Fran fod yr adferiad yn broses araf iawn. Mae'n cymryd blynyddoedd yn hytrach na dyddiau. Nid yw siarad yn teimlo'n naturiol, ac mae darllen hefyd yn anodd. Dywedodd Fran, er ei bod hi wedi blino, mae’n gwneud yn dda.

 

4. Cyflwyno canfyddiadau allweddol ymgyrch FAST Iechyd Cyhoeddus Cymru, a’r argymhellion ar gyfer ymgyrchoedd yn y dyfodol (Samuel Humphrey, Iechyd Cyhoeddus Cymru)

Gwnaeth Huw Irranca-Davies AS wahodd Iechyd Cyhoeddus Cymru i roi’r cyflwyniad cyntaf, a oedd yn manylu ar ganlyniadau’r ymgyrch FAST a gynhaliwyd yn ddiweddar. Gwnaeth y Cadeirydd gyflwyno Sam Humphrey, sef Rheolwr Cyfathrebu Iechyd Cyhoeddus Cymru.

Eglurodd Sam Humphrey fod yr ymgyrch wedi cael ei chynnal drwy gydol fis Mai 2023. Prif amcan yr ymgyrch yw lleihau’r amser y mae’n ei gymryd i bobl ffonio 999 a chyrraedd yr ysbyty. Mae’n defnyddio dull profedig, gan gynnwys delweddau bachog a'r acronym adnabyddus dan sylw, sef FAST.

Mae strôc yn cael effaith anghymesur ar rai grwpiau. Mae’r grwpiau hyn yn cynnwys y rhai dros 50 oed a phobl o gefndiroedd BAME, er enghraifft.

Mae'r sianeli a ddefnyddir yn arbennig o bwysig. Gan fod llawer o bobl dros 50 oed yn gwylio’r teledu ac yn gwrando ar y radio, defnyddiodd Iechyd Cyhoeddus Cymru y cyfryngau hynny. Fodd bynnag, ni wnaeth y sefydliad esgeuluso’r cyfryngau cymdeithasol, gan fod angen i aelodau eraill o'r cyhoedd fod yn ymwybodol o’r mater hwn.

Roedd gan y sefydliad hawl i hysbyseb, a phenderfynodd y dylid addasu’r hysbyseb hon ar gyfer Cymru gan ddefnyddio actor llais. Dangosodd Sam Humphrey yr hysbyseb i'r grŵp trawsbleidiol. Mae'r hysbyseb hon wedi cael ei defnyddio yn llwyddiannus yn Lloegr. Yr her oedd sicrhau ei bod yr un mor ddylanwadol ymhlith siaradwyr Cymraeg.

Cydweithiodd y sefydliad ag asiantaeth er mwyn dyfeisio’r ymgyrch NESA. Hynny yw, pan fydd person yn dioddef strôc, cofiwch y camau NESAF i’w cymryd. Dangosodd Sam Humphrey yr hysbyseb i'r grŵp trawsbleidiol.

Mae teledu yn gyfrwng pwerus iawn, a chafodd hysbysebion fideo ar alw eu dangos er mwyn ceisio cyrraedd grwpiau y mae strôc yn effeithio arnynt yn anghymesur. Cawsant 5,127,227 o argraffiadau (300,000 ar gyfer yr hysbyseb Cymraeg). Nododd Sam Humphrey fod y ffigurau hyn yn cyfeirio at y nifer o weithiau y cafodd yr hysbysebion eu gweld, nid nifer y bobl a welodd yr hysbysebion. Efallai bod rhai pobl wedi gweld yr hysbysebion sawl gwaith.

Perfformiodd yr hysbysebion a ddarlledwyd ar y radio yn dda iawn hefyd. Defnyddiwyd rhai gorsafoedd radio penodol er mwyn targedu Wrecsam a'r Fro. Roedd rhai gorsafoedd radio byd-eang, gan gynnwys Classic FM, hefyd wedi rhoi sylw i’r mater, yn ogystal â Wales Online.

Cafwyd oddeutu 4 miliwn o argraffiadau ar y cyfryngau cymdeithasol, gyda'r rhan fwyaf o bobl yn gweld yr hysbyseb 4 gwaith. Gwelodd 1 miliwn o bobl yr hysbysebion, a chafwyd 6,000 o gliciau ar y linc i'r dudalen strôc ar wefan 111 y GIG.

Defnyddiwyd asedau a rennir â byrddau iechyd a’r trydydd sector, a phecyn cymorth digidol. O bryd i’w gilydd, gofynnwyd am waith ymgysylltu wyneb yn wyneb, gan gynnwys cais gan Women Connect First yn Grangetown.

Yn sgil yr ymgyrch hon, cafodd cwestiynau eu cynnwys yn yr arolwg rheolaidd ar gyfer Panel Amser i Siarad Iechyd Cyhoeddus Cymru. Roedd 38 y cant o ymatebwyr wedi gweld yr ymgyrch yn ystod mis Mai.

Nododd Sam Humphrey fod hwn yn sampl gynrychioliadol o'r boblogaeth, ac nid yn unig y ddemograffeg a dargedwyd. Felly, mae'n dystiolaeth gadarn o ran yr effaith y gall yr ymgyrch FAST ei chael.

Ymhlith yr argymhellion ar gyfer y dyfodol mae caniatáu mwy o amser ar gyfer cynllunio a gwerthuso'r ymgyrch yn well. Er enghraifft, dylid cynnal arolwg cyn ac ar ôl yr ymgyrch. Hefyd, gallai Iechyd Cyhoeddus Cymru fod wedi gwneud mwy o waith mewn partneriaeth ag Ymddiriedolaeth GIG Gwasanaethau Ambiwlans Cymru o ran gwerthuso a chynllunio cyn yr ymgyrch.

Beth yn fwy y gellir ei wneud: Cafwyd adborth ardderchog yn sgil y sesiwn ymgysylltu yn Grangetown. Mae Arolygiaeth Gofal Iechyd Cymru yn awgrymu y dylid ymgysylltu â'r gymuned er mwyn codi ymwybyddiaeth ynghylch strôc, a thynnodd Sam Humphrey sylw at y ffaith y gallai’r ymgyrch FAST fod yn gyfrwng da ar gyfer gwneud hyn. Gallai fod yn ddefnyddiol arddangos rhai deunyddiau wedi’u hargraffu mewn meddygfeydd teulu.

Mae Iechyd Cyhoeddus Cymru yn awgrymu y bydd angen adnewyddu’r ymgyrch FAST yn fuan. Awgrymodd Sam Humphrey hefyd fod angen i’r hysbysebion a’r cynnwys fod mor benodol i Gymru â phosibl. Er enghraifft: A yw'r hysbyseb yn targedu'r grwpiau yng Nghymru y mae angen eu targedu?

Diolchodd Huw Irranca-Davies AS i Sam Humphrey, gan fyfyrio ar y gwersi y gallwn eu dysgu yn sgil hyn er mwyn sicrhau cynnydd.

 

5. Canfyddiadau allweddol yr Adolygiad Cenedlaethol a gynhaliwyd gan Arolygiaeth Gofal Iechyd Cymru ynghylch Llif Cleifion (y Llwybr Strôc) a’r argymhellion ynghylch yr ymgyrch FAST (Angela Contestabile, Arweinydd Polisi a Dylanwadu, y Gymdeithas Strôc)

Cyflwynodd Huw Irranca-Davies AS yr eitem nesaf, sef crynodeb o’r argymhellion a ddeilliodd o adolygiad Arolygiaeth Gofal Iechyd Cymru o’r llwybr strôc. Ymddiheurodd am y ffaith nad oedd modd i Arolygiaeth Gofal Iechyd Cymru fod yn bresennol, a chyflwynodd Angela Contestabile, Arweinydd Polisi a Dylanwadu y Gymdeithas Strôc, i arwain ar yr eitem hon ar yr agenda.

Eglurodd Angela Contestabile beth yw rôl Arolygiaeth Gofal Iechyd Cymru, gan amlinellu pam y cynhaliodd y sefydliad adolygiad cenedlaethol o lif cleifion. Nododd fod strôc wedi cael ei defnyddio fel meincnod ar gyfer asesu llif cleifion. Gofynnodd Arolygiaeth Gofal Iechyd Cymru: Sut y gwnaeth Iechyd Cyhoeddus Cymru ystyried ymgysylltu â phobl er mwyn codi ymwybyddiaeth ynghylch strôc? Ym mha faes y gall hyn wneud y gwahaniaeth mwyaf?

Mae grwpiau pobl dduon a lleiafrifoedd ethnig (BAME) yn fwy tebygol o gael strôc, neu bobl nad ydynt yn siarad Saesneg fel eu hiaith gyntaf. Nododd Arolygiaeth Gofal Iechyd Cymru yn ei hadroddiad nad yw delweddau o’r GIG yn aml yn cynrychioli’r grwpiau hyn. Yn ôl data a gyhoeddwyd yn ddiweddar (2018-2020) mae demograffeg Cymru yn cael ei gynrychioli fel a ganlyn: mae 95 o bobl yn nodi eu bod yn wyn, a 5 y cant yn nodi eu bod o gefndir BAME.

Mae’n bwysig bod byrddau iechyd a Llywodraeth Cymru yn dod o hyd i ffyrdd o ymgysylltu mewn modd ystyrlon â grwpiau y mae strôc wedi cael effaith anghymesur arnynt, a phobl o gefndiroedd economaidd-gymdeithasol is.

Roedd yr argymhellion a gafwyd gan Addysg Gofal Iechyd Cymru yn cynnwys: gwella cydweithio, rhannu arfer da, codi ymwybyddiaeth o strôc, ac atal strôc, ochr yn ochr â’r ymgyrch FAST. Yn ogystal, dylid cydweithio'n agos â phobl y mae strôc wedi cael effaith anghymesur arnynt er mwyn sicrhau canlyniadau iechyd gwell.

Beth sydd angen digwydd nesaf? Rydym angen ymrwymiad gan y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol i gynnal ymgyrch FAST / NESA bob dwy flynedd. Yn ogystal, rydym angen ymrwymiad gan y Gweinidog parthed ymgyrchoedd ymwybyddiaeth cenedlaethol ar gyfer strôc ac atal strôc. Rydym hefyd angen sicrhau bod yr holl randdeiliaid angenrheidiol yn cael eu cynnwys o'r camau cynllunio cychwynnol hyd at y broses werthuso.

Diolchodd Huw Irranca-Davies AS i Angela Contestabile. Dywedodd Huw Irranca-Davies AS y byddai’r grŵp trawsbleidiol yn ystyried y pwyntiau hyn ac yn gweithredu arnynt, gan wneud rhai argymhellion ar gyfer y dyfodol.

 

6. Y sefyllfa ar hyn o bryd yng Nghymru, a’r argymhellion ar gyfer y camau nesaf (Katie Chappelle, Cyfarwyddwr Cyswllt Cymru, y Gymdeithas Strôc)

 

Cyflwynodd Huw Irranca-Davies AS Katie Chappelle, Cyfarwyddwr Cyswllt y Gymdeithas Strôc.

Diolchodd Katie Chappelle i Huw Irranca-Davies AS. Eglurodd fod y Gymdeithas Strôc yn elusen sy’n cefnogi goroeswyr strôc ac yn gweithredu fel llais sy’n caniatáu iddynt ddwyn systemau i gyfrif (fel Llywodraeth Cymru a’r GIG).

Disgwylir i nifer y goroeswyr strôc gynyddu 50 y cant yn yr 20 mlynedd nesaf. Gwyddom y bydd hyn yn cynnwys mwy o bobl o oedran gweithio, gan y bydd pobl yn gweithio’n hirach. Rydym am weld pobl yn cael eu cefnogi mewn modd priodol, fel y gallant reoli eu gofal eu hunain pan fo'n briodol iddynt wneud hynny.

Gwyddom oll pa mor bwysig yw gofalu am ein hiechyd, ond mae angen inni wneud yn siŵr bod pobl yn gallu cael gafael ar y pethau sy’n caniatáu iddynt fyw’n dda. Mae'r rhain yn cynnwys mynediad i dai, aer glân, mannau gwyrdd, a gofal ataliol. Yn aml, rydym yn gweld mwy o bobl yr amheuid eu bod wedi cael strôc yn mynd i adrannau damweiniau ac achosion brys, ac efallai nad oes ganddynt y llythrennedd iechyd i eirioli dros eu hunain neu aelod o’u teulu yn y dderbynfa.

Gall yr atebion i rai o'r materion hyn fod yn syml ac yn gost-effeithiol. Mae angen sicrhau bod yr ymgyrch FAST yn cael yr amser sydd ei angen arni i gyrraedd y bobl briodol er mwyn iddi gael yr effaith fwyaf bosibl. Dywedodd Katie Chappelle fod Arolygiaeth Gofal Iechyd Cymru wedi argymell bod angen cynnal ymgyrch ymwybyddiaeth strôc ochr yn ochr ag ymgyrch FAST. Mae angen i hyn gyd-fynd hefyd â’r ymdrechion i dargedu'r ymgyrchoedd hyn at gymunedau BAME a mynd i'r afael ag anghydraddoldebau iechyd.

Gwnaed argymhelliad i’r perwyl y dylai holl aelodau'r GIG fod yn ymwybodol o'r ymgyrch FAST a'r offeryn Nodi Strôc yn yr Ystafell Frys (Recognition of Stroke in the Emergency Room – ROSIER). Mae angen i bawb gael eu hyfforddi i ddefnyddio’r offeryn hwn, gan gynnwys derbynyddion mewn adrannau damweiniau ac achosion brys. Bydd hyn yn gwella llif cleifion ac yn sicrhau canlyniadau gwell ar gyfer strôc.

Diolchodd Huw Irranca-Davies AS i Katie Chappelle am rannu’r wybodaeth hon ac am dynnu sylw at y negeseuon a’r camau dilynol y gallwn eu cymryd i wella canlyniadau i bobl y mae strôc wedi effeithio arnynt yng Nghymru.

 

7. Cwestiynau a thrafodaeth

Agorodd Huw Irranca-Davies AS y llawr i gwestiynau, gan drosglwyddo’r awenau i John HuntHHunt.

Mynegodd John Hunt bryder ynghylch targedu pobl dros 50 oed a phobl â chyflyrau eraill sy’n destun ffactorau sy’n gysylltiedig â byw bywydau nad ydynt yn iach. Awgrymodd fod angen canolbwyntio ar grwpiau iechyd a ffitrwydd hefyd, a hynny er mwyn lliniaru’r rhagdybiaethau cyffredin ynghylch strôc.

Cytunodd David Rees AS â John Hunt fod angen i ymgyrchoedd yn y dyfodol ganolbwyntio ar grwpiau oedran eraill hefyd. Soniodd fod angen canolbwyntio ar hyn yn sgil y ffaith iddo gyfarfod â goroeswr strôc ifanc yn ddiweddar a rannodd ei hanes. 

Yn ogystal, rhannodd Altaf Hussain AS ei fyfyrdodau. Mae Altaf Hussain AS o’r farn y dylem fod yn siarad am addysg o oedran ysgol. Mae angen canolbwyntio ar ambiwlansys hefyd. Mae'n mynd i wneud gwaith dilynol ar y mater hwn a siarad â'r Gweinidog, y Gymdeithas Strôc, a chydweithwyr eraill yn y gobaith y bydd rhai atebion yn cael eu hawgrymu.

Gwnaeth Huw Irranca-Davies AS argymell bod ei gyd-Aelodau o’r Senedd yn llunio’r camau gweithredu a’r argymhellion yn deillio o’r cyfarfod ac yn eu rhannu â’r holl Aelodau.

Soniodd Mark Isherwood AS am ymweld â'r grŵp ym Mwcle, Sir y Fflint. Dywedodd fod goroeswyr strôc yno hefyd wedi sôn am yr angen i weithio’n drawsffiniol gydag ysbytai yn Lloegr, lle mae’n rhaid i lawer o oroeswyr strôc gael gofal.

Cododd Alice Robin o Fwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr y ffaith nad yw llawer o bobl bob amser yn cyflwyno yn unol â’r prawf FAST. Soniodd fod prawf VFAST hefyd yn bosibl, gan ei fod yn tynnu sylw at y symptomau gweledol y gall pobl eu dioddef. Yn ogystal, cododd Alice Robin amseroedd ymateb ambiwlansys, a’r ffaith nad oes targed amser yng Nghymru ar gyfer cyrraedd pobl yng nghategori Ambr y model ymateb. Gwnaeth Alice Robin argymell ein bod yn ystyried hyn fel rhan o unrhyw waith yn y dyfodol.

Gwnaeth Huw Irranca-Davies AS wahodd Shakeel Ahmad, arweinydd clinigol ym maes strôc, i siarad. Tynnodd Shakeel Ahmad sylw at y ffaith bod angen canolbwyntio ar bob maes yn y llwybr strôc. Roedd adroddiad Arolygiaeth Gofal Iechyd Cymru yn canolbwyntio ar lif ac yn tynnu sylw at y ffaith bod systemau dan bwysau aruthrol. Mae llawer o heriau yn y maes hwn, sy’n achosi llawer o broblemau wrth y drws ffrynt. Mae hyn yn arwain at nifer o gymhlethdodau i gleifion sy’n cyflwyno yn unol â’r prawf FAST a chleifion sy'n cyflwyno eu hunain. Mae angen canolbwyntio ar adsefydlu yn y gymuned. Eglurodd Shakeel Ahmad fod cynllun peilot ar gyfer brysbennu cleifion drwy gyfrwng fideo cyn iddynt fynd i’r ysbyty yn cael ei gynnal ar hyn o bryd yng Nghaerdydd. Arbrawf yw hwn, ond bydd yn caniatáu inni ddysgu gwersi, a hynny yn y gobaith o’i gyflwyno ledled Cymru.

Gwnaeth Huw Irranca-Davies AS wahodd Debbie i rannu ei sylwadau. Mae Debbie yn oroeswr strôc. Mae’n cytuno â phwyntiau JH ynghylch goroeswyr strôc ifanc ac ynghylch sut y gallwn sicrhau ymwybyddiaeth y cyhoedd yn eu cylch.

Awgrymodd Johanna Brown (ARCH) ein bod yn targedu rhai grwpiau yn eu hieithoedd eu hunain – yn enwedig mewn meddygfeydd sydd â phoblogaethau uchel o bobl nad ydynt yn siarad Saesneg fel eu hiaith gyntaf. Yn ogystal, mae angen sicrhau bod y slotiau a ddefnyddir ar gyfer hysbysebion yn arwain at y cyrhaeddiad mwyaf posibl. Rhoddwyd enghraifft o raglen Saesneg ei hiaith a oedd yn cynnwys hysbyseb Cymraeg ar gyfer ymgyrch FAST. Nid oedd hyn wedi arwain at y cyrhaeddiad mwyaf posibl, a siawns bod angen edrych ar y mater hwn mewn perthynas ag ymgyrchoedd pellach.

Diolchodd Lynda Kenway, Rheolwr y Rhaglen Strôc Genedlaethol, i bawb am fod yn bresennol ac am eu sylwadau. Amlinellodd Lynda Kenway natur y gwaith sy'n cael ei wneud gan Weithrediaeth y GIG ar y llwybr strôc cyfan, gan gynnwys dechrau a diwedd y llwybr. Mae'n bwysig sicrhau bod pobl yn adnabod y symptomau ac yn gallu cymryd camau gweithredu mor gyflym â phosibl. Mae Ymddiriedolaeth GIG Gwasanaethau Ambiwlans Cymru bellach mewn sefyllfa anodd. Mae’r staff yn gwneud eu gorau, ond rydym ar ei hôl hi. Eglurodd Lynda Kenway ei fod yn ymgysylltu ag elusennau ar hyn o bryd, yn ogystal â goroeswyr strôc, a bydd y ddwy garfan hon yn cymryd rhan yn y rhaglen waith. Dywedodd ei bod yn edrych ymlaen at weithio mewn partneriaeth â’r grŵp trawsbleidiol.

Tynnodd Judith Rees sylw at bryderon ynghylch negeseuon cymysg y GIG yn y cyfryngau. Yn aml, rydym yn clywed am bobl yn cael eu hannog i osgoi adrannau damweiniau ac achosion brys yn sgil pwysau eithafol. Mae angen ailedrych ar y mater hwn a sicrhau ein bod yn dweud wrth bobl pa bethau sy'n cynrychioli argyfwng ac ar ba adegau y dylent fod yn ceisio gofal.

Gwnaeth John Hunt fynd i’r afael â phwynt Alice Robin, a thynnodd sylw at y ffaith mai Ambr yw’r categori a ddynodir ar gyfer strôc gan fod y categori hwn yn golygu anfon y cerbydau mwyaf priodol ar gyfer strôc. Pe bai strôc yn y categori coch, mae’n bosibl y byddai cerbydau nad ydynt yn addas ar gyfer ymdrin â strôc yn cael eu hanfon. Tynnodd John Hunt sylw hefyd at y ffaith bod angen sicrhau bod goroeswyr strôc yn cael eu parchu ar ôl eu strôc, ac yn cael eu gweld fel pobl y mae eu bywydau yn werth eu byw.

Dywedodd Samuel Humphrey ei fod yn cytuno â John Hunt. Dywedodd Samuel Humphrey hefyd fod Iechyd Cyhoeddus Cymru wedi treialu ieithoedd eraill ar gyfer brechlynnau COVID, ac wedi canfod nad oedd yr adnoddau’n cael eu defnyddio. Fodd bynnag, y dull a weithiodd orau ar gyfer y grwpiau hyn oedd ymgysylltu wyneb yn wyneb a defnyddio negeswyr y gellir ymddiried ynddynt o’r cymunedau hynny. Felly, mae’n bosibl y gwneir mwy o waith allgymorth ac ymgysylltu yn y dyfodol.

 

8. Sylwadau i gloi: Katie Chappelle a Huw Irranca-Davies AS

Gwnaeth Huw Irranca-Davies AS wahodd Katie Chappelle i gloi’r cyfarfod ac ymateb i sylwadau.

Dywedodd Katie Chappelle ei bod yn cytuno ar yr ymgyrch FAST parthed symptomau eraill. Serch hynny, awgrymodd fod angen ymwreiddio'r neges bwysig honno cyn ehangu’r ymgyrch a rhoi rhagor o gig ar yr asgwrn.

Gofynnodd Katie Chapelle i’r grŵp trawsbleidiol ysgrifennu llythyr at y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol er mwyn tynnu sylw at yr angen i gynnal ymgyrch ymwybyddiaeth strôc ac ymgyrch FAST o leiaf unwaith bob dwy flynedd.

Gofynnodd Huw Irranca-Davies i Angela Contestabile, fel Ysgrifennydd y grŵp, a fyddai modd iddi ddwyn ynghyd y prif bwyntiau fel y gall Aelodau o’r Senedd sy’n ymwneud â’r grŵp trawsbleidiol anfon llythyr at y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol. Roedd Huw Irranca-Davies AS am dynnu sylw at bwysigrwydd y mater hwn ac annog Aelodau o’r Senedd i gwrdd â goroeswyr strôc, y Gymdeithas Strôc a byrddau iechyd, a hynny er mwyn dysgu am strôc a’r rhai y mae’n effeithio arnynt.

Gwnaeth Huw Irranca-Davies AS rai sylwadau i gloi, gan ddiolch i'w gydweithwyr am dderbyn rolau ar y grŵp trawsbleidiol, a chan ddiolch hefyd i’r rhai sydd â phrofiad byw am rannu eu hanesion. Eglurodd Huw Irranca-Davies AS y byddai cyfarfodydd yn cael eu cynnal bob chwarter, ac y byddai pob ymdrech yn cael ei wneud i ymgynghori â’r grŵp ynghylch yr agenda ymlaen llaw.

Trosglwyddodd Huw Irranca-Davies AS yr awenau i Angela Contestabile, a ddiolchodd i bawb a roddodd gyflwyniad ac i Huw Irranca-Davies AS am gadeirio'r cyfarfod.

Daeth Huw Irranca-Davies AS â'r cyfarfod i ben.

 

Bydd dyddiad, amser a manylion y cyfarfod nesaf yn cael eu rhannu maes o law.